Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 4 Mawrth 2015

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(251)v3

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch newid yn yr hinsawdd - tynnwyd yn ôl (0 mins)

</AI2>

<AI3>

3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar adolygiad Donaldson o'r cwricwlwm a threfniadau asesu: y camau nesaf (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (0 munud)

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

</AI4>

<AI5>

5 Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 30 mewn perthynas â hysbysu Biliau Senedd y DU (5 munud)

NDM5707 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2015; a

 

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 30, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

</AI5>

<AI6>

6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (60 munud)

NDM5709 David Rees (Aberafan)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2015.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI6>

<AI7>

7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5711 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi haneru'r diffyg ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros;

 

2. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd yn tyfu'n gyflymaf yn y G7 yn 2014; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r amodau ar gyfer twf yn y sector preifat i greu swyddi a ffyniant.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng nghyllideb y DU erbyn 2015 a chynnal ei statws credyd AAA;

 

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu at y ffaith bod mesurau llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn termau real i gyllideb Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar gymunedau a theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny.

 

Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 2, ar ôl '2014' ychwanegu ', er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel diweithdra ieuenctid ac effaith contractau dim oriau ar  dlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith'.

 

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae penderfyniad Llywodraeth y DU i godi'r trothwy treth incwm i £10,500 yn ei chael ar economi Cymru, gan arwain at doriad o £800 yn nhreth incwm 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru, gan arbed 153,000 o bobl rhag talu treth incwm yn gyfan gwbl.

 

Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru er mwyn adeiladu economi cryfach a thecach i Gymru.

 

[os derbynnir gwelliant 5, bydd gwelliant 6 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 6 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 3, ar ôl 'ffyniant' ychwanegu 'a nodi bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau o tua 30% yn y Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ledled Cymru i gefnogi'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus'.

</AI7>

<AI8>

8 Dadl Plaid Cymru (60 munud)

NDM5710 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu na ddylai lefel Cymru o hunanlywodraeth fod yn is nag unrhyw ran arall o'r DU;

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni cydraddoldeb o ran pwerau a pharch i Gymru yn ystod ei daliadaeth;

 

3. Yn galw am gydraddoldeb llawn o ran pwerau a chyllid ar gyfer Cymru a'r Alban;

 

4. Yn galw am drosglwyddo cyfrifoldeb am gyfansoddiad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Fil ymreolaeth newydd;

 

5. Yn nodi y dylai'r Bil ymreolaeth gynnwys datganoli'r cyfrifoldeb dros adnoddau naturiol Cymru yn llawn;

 

6. Yn galw ymhellach am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a datganoli plismona, carchardai, llysoedd a chyfiawnder troseddol; a

 

7. Yn credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y grym i gefnogi'r rhai sydd angen diogelwch cymdeithasol drwy bwerau cynyddol mewn perthynas â budd-daliadau lles fel yr argymhellodd y Comisiwn Smith i'r Alban.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

1. Yn croesawu'r camau sylweddol a gymerwyd ymlaen mewn perthynas â'r setliad datganoli i Gymru ers 2010, gan gynnwys:

 

a) refferendwm ar bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

 

b) sefydlu Comisiwn Silk;

 

c) cyflwyno Deddf Cymru 2014, sydd wedi datganoli treth stamp, trethi busnes a threth tirlenwi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a darparu ar gyfer refferendwm ar a ddylid datganoli elfen o dreth incwm.

 

2. Yn croesawu'r cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi sy'n cynnig:

 

a) datganoli'r cyfrifoldeb dros bob caniatâd cynllunio i ddatblygiadau prosiectau ynni hyd at 350 MW ar y tir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru;

 

b) datganoli terfynau cyflymder, rheoliadau bws a thacsi, a swyddogaethau'r Comisiynydd Traffig;

 

c) cyflwyno model cadw pwerau;

 

d) datganoli datblygu porthladdoedd;

 

e) datganoli pwerau yn ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol;

 

f) datganoli cymhwysedd dros ddyletswyddau cydraddoldeb ar gyfer y sector cyhoeddus datganoledig; a

 

g) datganoli trwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru

 

3. Yn credu bod yn rhaid inni fynd ymhellach i sicrhau ymreolaeth i Gymru ac yn galw am:

 

a) datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 1 sy'n weddill ar bwerau ariannol i Gymru;

 

b) datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 2 sy'n weddill ar bwerau deddfwriaethol i Gymru;

 

c) datganoli cyllid Network Rail mewn perthynas â rhwydwaith Cymru;

 

d) datganoli terfynau yfed a gyrru;

 

e) datganoli'r cyfrifoldeb dros ariannu gwariant cyhoeddus ar S4C i'r Cynulliad;

 

f) datganoli cyfiawnder ieuenctid, plismona a phwerau cyfiawnder eraill yn y tymor hwy;

 

g) trosglwyddo pwerau i reoli asedau economaidd Ystâd y Goron;

 

h) trosglwyddo rheolaeth dros ystod o fuddion ar gyfer pobl hŷn, gofalwyr a phobl anabl;

 

i) datganoli pwerau i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn etholiadau cenedlaethol a lleol Cymru;

 

j) rhoi'r hawl i Lywodraeth Cymru osod ei gwyliau banc ei hun; a

 

k) rhoi'r pŵer i Gomisiynydd Plant Cymru archwilio materion sy'n effeithio ar blant yng Nghymru ond nad ydynt o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru.

 

4. Yn galw am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd. 

 

Mae Deddf Cymru 2014 ar gael yn:

 

www.legislation.gov.uk/mwa/2010/4/contents (Saesneg yn unig)

 

Mae adroddiadau Silk Rhan 1 a Rhan 2 ar gael yn:

 

Dogfen Ategol

[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

1. Yn nodi cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014, sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru;

 

2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli;

 

3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau;

 

4. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o atal rhagor o gydgyfeirio.

 

5. Yn mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a

 

6. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU.

 

Mae'r papur gorchymyn ar gael yn:

 

Dogfen Ategol (Saesneg yn unig)

 

[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]

 

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

 

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu'r newidiadau cyfansoddiadol sylweddol sydd wedi digwydd i setliad datganoli Cymru ers 2010 ac yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i anrhydeddu y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi trawsbleidiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog y DU.

</AI8>

<AI9>

9 Dadl Fer (30 munud)

NDM5708 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):

 

Cyfeillio - atal unigrwydd

 

Defnyddio cyfeillio i atal pobl rhag bod yn unig ac yn ynysig.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>